Diwrnod Iechyd y Byd

Ebrill 7fed 2024  

Thema Diwrnod Iechyd y Byd eleni yw ‘Fy Iechyd, Fy Hawl’. 

“Dewiswyd y thema eleni i hyrwyddo hawl pawb, ym mhob man i gael mynediad at wasanaethau iechyd, addysg, a gwybodaeth o safon, yn ogystal â dŵr yfed diogel, aer glân, maeth da, tai o safon, amodau gwaith ac amgylcheddol gweddus, a rhyddid rhag camgwahaniaethu”. Diwrnod Iechyd y Byd 2024 

Fel Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs rydym bob amser yn cefnogi Hawliau Plant CCUHP ac ar Ddiwrnod Iechyd y Byd hoffem eich atgoffa o Erthygl 24 

 “Mae gan bob plentyn yr hawl i’r iechyd gorau posib. Rhaid i lywodraethau weithio i ddarparu gofal iechyd o ansawdd da, dŵr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân fel y gall plant aros yn iach. Rhaid i wledydd cyfoethocach helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn”  

Mewn Clybiau All-Ysgol gallwch gefnogi Erthygl 24 CCUHP drwy sicrhau bod anghenion iechyd plant yn cael eu diwallu, drwy:  

  • Fod dŵr glân ar gael fel y gofyniad lleiaf. Gellir cyflawni hyn drwy gyfrwng gorsaf hunangymorth syml neu gael cwpanau ar gael yn yr ardal chwarae fel bod y plant yn cael mynediad at ddŵr yn annibynnol. 

Gellir cefnogi plant i ddod yn annibynnol trwy gymryd rhan amser byrbryd. Eu hannog a’u galluogi i gael mynediad at Fwyd Maethlon adeg Prydau Bwyd a Byrbrydau. Bydd caniatáu i blant baratoi byrbrydau a sicrhau eu bod yn deall arferion iechyd a hylendid yn darparu cyfleoedd i ddysgu am ddiogelu eu hiechyd eu hunain. 

  • Sicrhau bod yr amgylchedd yn lân ar ddechrau’r sesiwn. Clirio wrth fynd yn eich blaen a hefyd sicrhau bod yna gyfyngiad ar groeshalogi â bwyd, meddyginiaeth neu salwch a all ledaenu’n gyflym o amgylch y lleoliad. 
  • Sicrhau bod meddyginiaeth yn cael ei rhoi yn unol â chyfarwyddiadau presgripsiwn a Pholisi a Gweithdrefnau Meddyginiaeth eich lleoliad, gan sicrhau bod llofnodwyr caniatâd gan riant/gofalwr y plentyn. 
  • Galluogi plant i olchi dwylo’n annibynnol cyn ac ar ôl byrbrydau a phrydau bwyd. 

Gellir Cefnogi Iechyd Meddwl yn y Clwb hefyd trwy weithgareddau fel 

  • Cyfleoedd chwarae corfforol dan do ac yn yr awyr agored 
  • Sesiynau ioga a meddylgarwch

Fy Hawliau i yn fy Nghlwb All-Ysgol i ERTHYGL 24 – Clybiau Plant Cymru (CY)  

Our-rights_UNCRC.pdf (unicef.org.uk) 

World Health Day 2024: My health, my right (who.int)