15/07/2025 |
Dirprwy Reolwr – Plasnewydd, Clwb All-Ysgol, Caerdydd
Dyddiad cau: 15/08/2025
Oriau: 16.5 awr yr wythnos, dydd Llun – Gwener, yn ystod yn ystod y tymor
Cyflog: £15.00 yr awr
Cymwysterau / Profiad Gofynnol:
Bydd angen safon dda o addysg arnoch hyd at TGAU a chymhwyster Lefel 3 perthnasol mewn Gwaith Chwarae, neu gymhwyster gofal plant sy’n gysylltiedig neu gyfatebol, fel Lefel 3 GDDP (Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant).
Disgrifiad o ddyletswyddau:
Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo’r rheolwr i redeg y clwb ar ôl ysgol o ddydd i ddydd.
Gan weithio fel rhan o dîm a’u cefnogi, byddwch yn rhan o gynllunio a chyflwyno cyfleoedd chwarae hwyliog a chreadigol i blant rhwng 4-11 oed.
Byddwch hefyd yn gwneud y siopa wythnosol ac yn cynorthwyo i gwblhau tasgau gweinyddol fel gwiriadau iechyd a diogelwch dyddiol, asesiadau risg a diweddaru cofrestrau presenoldeb.
Sut i ymgeisio: Anfonwch e-bost a datganiad personol i Areatha Comanescu at pooscareatha@gmail.com gan amlinellu’r sgiliau a phrofiad byddwch yn dod i‘r rôl fel Dirprwy Reolwr
Lleoliad y swydd: CF24 4BB, Caerdydd
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.