Rheolwr – Saplings Out of School Care, Bro Morgannwg

Dyddiad cau: 02/07/2025

Oriau: Oriau amrywiol – amser tymor a gwyliau ysgol  

Cyflog: £25.992 – £27.711 (yn ôl yr un gyfradd) £13.47 – 14.36 p/a yn ôl yr un gyfradd  

Cymwysterau / Profiad Gofynnol:
 

  • Bydd angen safon dda o addysg arnoch hyd at TGAU ynghyd â chymhwyster Lefel 3 perthnasol mewn Gwaith Chwarae, neu gymhwyster gofal plant cyfatebol cysylltiedig fel CCPLD (Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant). 
  • Profiad o weithio gyda phlant 4-11 oed a sgiliau cyfathrebu rhagorol. 
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae a gwaith chwarae i blant. 
  • Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus wybodaeth hefyd am ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i ddarparu gofal plant i blant oedran ysgol.   

Disgrifiad o ddyletswyddau: Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo’r rheolwr i redeg sesiynau cyn ac ar ôl ysgol o ddydd i ddydd ac i reoli rhai o’n sesiynau gwyliau. 

Gan weithio fel rhan o dîm byddwch yn rhan o gynllunio a chyflwyno cyfleoedd chwarae hwyliog a chreadigol i blant. Byddwch hefyd yn cynorthwyo i gwblhau dogfennaeth fel asesiadau risg a chofrestri presenoldeb dyddiol. 
 

Sut i ymgeisio:  I wneud cais am y swydd hon ewch i wefan Swyddi Cyngor Bro Morgannwg lle byddwch yn dod o hyd i ffurflen gais, Disgrifiad Swydd a Manyleb Person a’i dychwelyd at y cyswllt isod.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Mrs Kath John, JohnK12@hwbcymru.net  
 

Lleoliad y swydd: Dyffryn Morgannwg, CF64 3PD                          
 

Ymwadiad 

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau.  Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. 
 

Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb.  Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall. 

 

Back to Job Board