Camau

A ydych chi am gynyddu’ch defnydd o’r Gymraeg ond ddim yn gwybod ym mhle i ddechrau? Mae cymorth wrth law.

I’r rhai ohonoch a hoffech ddysgu Cymraeg, neu sydd eisoes yn gwneud hynny, gall meddu ar yr hyder i ymarfer fod yn rhwystr mawr. Peidiwch â phoeni, mae cymorth wrth law! Cewch gefnogaeth gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs gyda thermau y gallwch eu defnyddio bob dydd.

Sut fyddwn ni’n eich helpu?

Yr allwedd yw rhoi cynnig arni, dyna’i gyd – does dim angen i chi boeni am beidio â bod yn berffaith, defnyddio treigladau, amserau’r ferf, nac unrhyw beth technegol; does ond angen ichi ddefnyddio’r hyn sydd gennych a chael hwyl wrth wneud.

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, fel rhan o bartneriaeth Cwlwm, yn rhan o’r Prosiect Cymraeg Gwaith. Mae ein Cydlynwyr Iaith Gymraeg wrth law i’ch cefnogi ar eich taith gyda sesiynau ar-lein ymarferol a phwrpasol, wedi eich teilwra ar eich cyfer chi.

Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a’u prosiect, CAMAU. Nod y prosiect yw hyfforddi ymarferwyr Gofal Plant a Chwarae drwy gyrsiau Cymraeg hunan-astudio ar-lein, sydd wedi eu dylunio’n arbennig i gefnogi’r gweithlu i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gweithle. Gellir gwneud hyn ochr yn ochr â’ch rôl ddyddiol neu ochr yn ochr â hyfforddiant. Byddwn yn eich helpu chi neu’ch staff i ymrestru ar gwrs ac yn rhoi cefnogaeth drwy gydol y dysgu.

Os hoffai eich lleoliad gyrchu cwrs Camau, sydd wedi ei ariannu’n llawn, cysylltwch â’n Swyddogion Cefnogi Iaith Gymraeg.

Bydd ein cefnogaeth ni, ar y cyd â chwrs CAMAU, yn eich galluogi i gynyddu eich defnydd o’r Gymraeg drwy eich helpu i dyfu o ran hyder a sgiliau.

 

“Diolch gymaint bawb am eich holl helpu gyda defnyddio mwy o Gymraeg yn ein lleoliad; gwerthfawrogwn y gefnogaeth sydd wedi ei rhoi hyd yma, ac edrychwn ymlaen at gam nesaf ein datblygiad gyda’r iaith Gymraeg. Diolch!!”

– Gofal Plant Mes Bach

 


 

Astudiaethau Achos

 


 

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â’ch swyddfa leol, ranbarthol os gwelwch yn dda:

Gogledd Cymru:

01492 536318

info-nw@clybiauplantcymru.org

De Dwyrain Cymru:

029 2074 1000

info@clybiauplantcymru.org

Gorllewin Cymru:

01269 831010

info-ww@clybiauplantcymru.org

 

 

 

Our partners

Project’s partners