Diogelu i elusennau ac ymddiriedolwyr

Mae gan bob elusen gyfrifoldeb i sicrhau nad ydynt yn achosi niwed i unrhyw un sydd mewn cysylltiad â nhw. Mae gan elusennau sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion mewn risg gyfrifoldebau ychwanegol.

Fel ymddiriedolwr mae’n rhaid i chi sicrhau bod eich elusen yn cyflawni’r cyfrifoldeb hwn. Hyd yn oed os ydych yn dirprwyo rhai gweithgareddau i bersion neu grŵp i arwain ar ddiogelu, gallwch chi barhau â chyfrifoldeb cyffredinol. Mae diwylliant diogelu cryf yn golygu:

  • eich bod yn amddiffyn pobl
  • yn lleihau i’r eithaf risgiau o unrhyw niwed neu gamdriniaeth
  • bod pawb yn hyderus yr ymdrinnir â’u pryderon yn briodol
  • bod pawb sydd ynglŷn â’r elusen yn deall eu rôl

Gwyliwch fideo byr a darllenwch y deunydd canllaw yma.