Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr – Dydd Llun Rhagfyr 5ed 2022

Y Diwrnod Rhyngwladol hwn i Wirfoddolwyr mae’r Cenhedloedd Unedig yn dathlu cydsefyll trwy wirfoddoli. Gwaith Gwirfoddol un un o’r dulliau cyflenwi pwysicaf o ran trawsnewid cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Mae rhaglen Gwirfoddolwyr y Cenhedloedd  Unedig yn cydnabod ac yn annog gwirfoddoli wrth symud ymlaen tuag at ddatblygiad dynol cynaliadwy a heddwch byd. Gall gwirfoddoli fod yn ffurfiol, ond gwneir y rhan fwyaf o waith gwirfoddol ar sail anffurfiol, ac fe wneir lles yn ogystal i les y gwirfoddolwyr yn ogystal â’r rhain sy’n elwa o’u gweithredoedd. Y Dydd Llun hwn, beth am ddathlu cyfraniadau amhrisiadwy gwirfoddolwyr yn fyd-eang.


Diwrnod Siwmper Dolig – Dydd Iau, Rhagfyr 8fed 2022

Ers 2012 mae Achub y Plant wedi bod yn cynnal Diwrnod Siwmper Dolig. Mae’r diwrnod hwn yn eich annog i wisgo siwmper Nadolig am y diwrnod ac i roi £2 i Achub y Plant; eleni mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu i ychwanegu arian cyfatebol i’r swm a roddir. Bydd yr arian a roddir eleni’n mynd tuag at helpu mamau a babanod yn Kenya. Am fwy o wybodaeth, ac ynghylch y codi arian, ewch i’r wefan.


Diwrnod Hawliau Dynol – Dydd Sadwrn Rhagfyr 10fed 2022

Cynhelir a dathlir Diwrnod Iawnderau Dynol ar Ragfyr 10fed bob blwyddyn. Mabwysiadodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedleodd Unedig y Datganiad Byd-eang ar Iawnderau Dynol yn 1948, sydd yn datgan yr hawl ddiymwad sydd gan bob unigolyn, beth bynnag fo’u hil, lliw, crefyddkl rhywedd, iaith, cenedligrwydd, a llawer mwy o nodweddion a ddiogelir sy’n ein gwneud yn fodau dynol.