Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Wythnos Iechyd Meddwl Plant – Dydd Llun 6ed Chwefror – Dydd Sul 12 Chwefror 2023

Mae Wythnos Iechyd Meddwl Plant, sy’n cael ei dathlu’r wythnos hon, yn ceisio gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc ledled y DU drwy godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd meddwl sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc. Thema eleni yw ‘Dowch i Gysylltu’. Mae gan bawb iechyd meddwl, a bydd tua 1 o bob 4 ohonom yn profi problem iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae gan y wefan bwrpasol hon,  a gynhelir  gan Place2Be, ddigonedd o adnoddau a gwybodaeth i helpu i arwain plant ac oedolion i ystyried sut rydym yn gwneud cysylltiadau ystyrlon i gefnogi ein hiechyd meddwl.


Dydd Miwsig Cymru – Dydd Gwener 10fed o Chwefror 2023

Wedi’i sefydlu gan gyn DJ BBC Radio 1 Huw Stephens yn 2013, mae Dydd Miwsig Cymru  yn ddiwrnod i ddathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg. O indie a roc, i ffync a phop, mae yna artist Cymraeg i chi ei ddarganfod. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu rhai rhestrau chwarae i’ch helpu chi i ddarganfod eich hoff gân Gymraeg newydd. Yn ogystal, bydd chwiliad cyflym ar-lein yn dangos bod digon o gigs yn cael eu trefnu i ddathlu’r diwrnod!

Beth allwch chi ei wneud i ddathlu yn eich lleoliad?

  • Trefnu disgo neu barti.
  • Gwrando ar gerddoriaeth neu artistiaid Cymraeg.
  • Dysgu a chanu cân Cymraeg .
  • Cyfansoddi eich cân/rap Cymraeg eich hun neu greu dawns.

Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched ym maes Gwyddoniaeth – Dydd Sadwrn 11 Chwefror 2023

Eleni mae  Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched ym maes Gwyddoniaeth  Diwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar y rolau y mae menywod a merched yn eu chwarae mewn perthynas â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Nod y diwrnod yw cysylltu’r gymuned ryngwladol a chryfhau’r cysylltiadau rhwng gwyddoniaeth, polisi, a chymdeithas ar gyfer strategaethau sy’n canolbwyntio ar y dyfodol, a chydnabod pwysigrwydd cynhwysiant a chydraddoldeb menywod a merched mewn gwyddoniaeth.  Yn draddodiadol mae menywod wedi cael eu trin yn llai ffafriol na dynion ym myd gwyddoniaeth, er enghraifft, dim ond 12% o aelodau academïau gwyddoniaeth cenedlaethol sy’n fenywod. Mae gan  ddysgu STEM   gasgliad o adnoddau am y cyfraniadau gwyddonol gwerthfawr a gafwyd gan fenywod.