Dyddiau Ymwybyddiaeth

Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu – o ddydd Mawrth 14eg o Chwefror 2023  

Ers 1997 mae Wythnos Genedlaethol Blychau Nythu wedi ei dathlu o’r 14eg o Chwefror. Mae’n annog pobl i greu a rhoi mwy o flychau nythu ar gyfer adar naill ai yn eu gerddi neu ardaloedd lleol. Oherwydd ffactorau amrywiol, mae adar Prydain angen mwy o dyllau i nythu ac mae blychau nythu yn gallu helpu! Am fwy o wybodaeth am sut i greu blwch nythu neu pam mae blychau nythu’n bwysig ewch i’r wefan. 


Dydd y Tro Caredig  ar Hap– Dydd Gwener Chwefror 17eg 2023 

Mae Dydd y Tro Caredig ar Hap yn ymdrech i normaleiddio caredigrwydd yn y cartref, ysgol a’r gweithle. Mae’r wefan ddynodedig yn llawn syniadau ar sut y gallwch wneud tro caredig ar hap a newid er gwell ddiwrnod rhywun. Efallai y  byddai’n rhoi trît o hoff beth i chi eich hun, cribinio dail eich cymydog neu ganmol rhywun nad ydych yn ei nabod. Cofiwch nad oes raid i  garedigrwydd tuag at eich hun ac eraill gostio, ac mi all gael effaith gadarnhaol ar ddiwrnod rhywun.   


Mahashivaratri – Dydd Sadwrn. Chwefror 18fed 2023 

Gŵyl Hindŵaidd yw  Mahashivratri (a elwir hefyd yn Shivaratri); y mae wedi’i chysegru ar gyfer Shiva, un o dduwdodau’r Drindod  Hindŵaidd, a’r un sy’n dinistrio’r bydysawd. Dathlir y mwyafrif o seremonïau Hindŵaidd yn ystod y dydd, ond dathlir Mahashivratri yn y nos. Mae rhai sy’n dilyn Shiva yn ffyddlon yn aml yn ymprydio yn ystod y  dydd a byddant ar eu traed drwy’r nos, fel arfer mewn lle o addoliad. I wybod mwy, mae gan y BBC wybodaeth  ar sut y dathlir yr ŵyl.