Cyfrif i lawr i Wythnos Wyddoniaeth Prydain

Mae Wythnos Wyddoniaeth Prydain yn ddathliad 10-niwrnod blynyddol o wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) i’w chynnal ar Fawrth 10-19, gan y gymdeithas wyddonol Brydeinig, y British Science Association (BSA). 

Mae’r wythnos yn ddigwyddiad calendr ers tipyn i ysgolion, grwpiau cymunedol, llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau, busnesau a sefydliadau eraill. 

Bob blwyddyn mae BSA’n gweithio gydag amryw o bartneriaid i gynhyrchu pedwar pecyn gweithgaredd i gynorthwyo addysgwyr, teuluoedd a grwpiau cymunedol gyda’u cynlluniau ar gyfer yr Wythnos Wyddoniaeth Brydeinig. Mae pecynnau eleni wedi’u seilio ar y thema ‘Cysylltiadau’.   

Lawrlwythwch eich pecyn di-dâl yma.