Enillwyr Gwobrau Gofal Plant Allysgol 2023

Gweithiwr Chwarae sy’n ymgorffori’r Egwyddorion Gwaith Chwarae ac sydd wedi mynd yr ail filltir i roi gwasanaeth rhagorol i blant, rhieni/gofalwyr a’r gymuned leol.

“Mae Ross yn mynd ymhellach a thu hwnt yn ei ymdrech i wneud yn sicr bod y plant yn cael cyfleoedd gwych i chwarae. Mae’n mynd o’i ffordd i ymgeisio am grantiau ac ariannu ychwanegol i wneud yn siŵr y gall pob plentyn o bob cefndir fynychu’r clwb, ac mae’n rhedeg sesiynau ychwanegol yn ystod gwyliau’r ysgol pa bryd bynnag y bydd hynny’n bosibl. Mae hyn yn amhrisiadwy i’r plant ac i’r rhieni/gofalwyr. Mae’n trefnu gweithgareddau hwyliog ychwanegol i’r plant ac yn annog chwarae cynhwysol i bawb, yn cynnwys plant ag anghenion ychwanegol. Y mae’n seren go iawn ac yn ased gwerthfawr iawn i gymuned Ysgol Pwll Coch. Fe allwch weld effaith hyn ar y plant o ran eu llesiant a’r cyfleoedd i gadw’n ffit ac ymarfer eu cyrff.”

Clwb Allysgol y Flwyddyn: Dylan’s Den (Rhondda Cynon Taf)

Clwb Gofal Plant Allysgol y Flwyddyn (Clwb): Lleoliad sy’n ymgorffori’r Egwyddorion Gwaith Chwarae ac sy’n enghraifft ragorol o fudd chwarae a gofal plant o ansawdd i blant, teuluoedd a chymunedau.

“Mae’r gwasanaeth gofal plant a gynigir gan Dylan’s Den heb ei ail. Mae’r staff yn gynnes a chyfeillgar, ac fe gawson nhw gymaint o hwyl gyda’m un fach i pan aeth i’r clwb gwyliau yno. Digonedd o weithgareddau ar gynnig, a digonedd o chwarae yn yr awyr agored ar gynnig; a diddordeb mawr mewn bwyta’n iach hefyd. Fe gafodd hi gymaint o hwyl yno, yn chwarae,  dawnsio a gwneud smwddis, doedd hi ddim  eisiau dod adre!

Sefydlwyd Dylan’s Den yn 2008 gan grŵp o rieni ac arnynt angen gofal plant dibynadwy, un  y gellir ymddiried ynddo ac un fforddiadwy, yn y Rhondda.  Mae’r ddarpariaeth ar gael i bawb, ac mae’r gweithgareddau a gynigir i’r plant yn cefnogi pob agwedd ar eu datblygiad ac yn rhoi cyfle iddyn nhw gyrraedd eu potensial llawn.”

Hyrwyddwyr Cynhwysiant: Tiddlywinks (Tai-bach, Castell-nedd Port Talbot)

Hyrwyddwyr Cynhwysiant (Clwb) Clwb Gofal Plant Allysgol sy’n gweithio’n galed i roi darpariaeth gynhwysol ac o ansawdd, ac i gefnogi hygyrchedd i’r holl blant, staff a theuluoedd.

“Mae ein gwerthoedd cynhwysiant yn destun balchder i ni. Teimlwn fod gan bawb yr hawl i gael eu cynnwys, a dy’n ni byth yn gwrthod unrhyw un. Byddwn yn cefnogi plant a theuluoedd orau y gallwn. Un enghraifft: – Fe gawsom fachgen a ddaeth atom mewn tacsi yr holl ffordd o Abertawe. Roedd y lleoliadau a oedd yn lleol iddo’n ei chael hi’n anodd ymdrin â’i ymddygiad. Yn ffodus, bu modd i ni ei gefnogi ef a’i deulu. Roedd iaith yn un rhwystr, ac roedd e’n rhwystredig iawn. Fe wnaethom ni ganolbwyntio ar y gweithgareddau yr oedd e’n ei fwynhau cyn symud ymlaen.”

Hyrwyddwr Chwarae: Elemental Adventures CIC (Ceredigion)

Hyrwyddwr Chwarae (Clwb) Clwb Gofal Plant Allysgol sydd wedi hyrwyddo hawl plant i chwarae ac sydd wedi ymdrechu i ddarparu cyfleoedd chwarae o ansawdd da i’r plant yn eu gofal.

Cynhelir y Clwb yma yn gyfan gwbl mewn man awyr-agored, ac mae’r ddarpariaeth yn hyrwyddo gwahanol elfennau o chwarae. Mae modd i’r plant brofi gwahanol risgiau a dysgu am eu lefel bersonol nhw o risg. Mae’r clwb hefyd yn weithiol iawn o ran ymgeisio am grantiau i wella eu lleoliad awyr-agored, e.e. fe wnaethant lwyddo i gael eu h ariannu i brynu canopi awyr-agored fel cysgodfan. Hefyd, mae eu lleoliad yng nghanol coedlan, sy’n rhoi cyfle i’r plant archwilio a dysgu o’u hamgylchedd naturiol, gan ddefnyddio adnoddau naturiol wrth ddringo, arbrofi a defnyddio eu  dychymyg. Gan adael plant i fod yn blant.

Dysgwr y Flwyddyn: Katie Lloyd, Buttons & Bows (Caerdydd)

Dysgwr y Flwyddyn (unigolyn) Dysgwr sydd wedi gweithio’n galed i gyflawni neu wneud cynnydd tuag at ennill cymhwyster gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs. Gallai hyn fod wedi cynnwys cefnogi cymheiriaid, cyfrannu’n dda mewn sesiynau, gwneud y gorau o’r profiad dysgu, neu oresgyn heriau ag angerdd a phenderfyniad.

“Mae’r ddysgwraig hon wedi ymgysylltu’n llwyr â’r hyfforddi. Mae’n herio ffordd pobl o siarad am bethau ac wedi bod yn eiriolwr dros chwarae. Mae wedi trawsnewid ei darpariaeth ac wedi ymgorffori’n llwyr ethos Gwaith Chwarae, a thrwy hynny integreiddio hawliau plant. Mae wedi cymryd yr hyn y mae wedi ei ddysgu a symud ymlaen yn syth i’w roi ar waith. Mae hefyd wedi cefnogi ei staff i ennill eu cymwysterau eu hunain, da iawn Katie!”

Ymroddiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus: LCDP (Rhondda Cynon Taf)

Ymroddiad i DPP (Clwb) Clwb Gofal Plant Allysgol sy’n ymroi i annog a chefnogi ei staff i fynychu hyfforddiant a gweithdai i ategu at eu datblygiad proffesiynol, i gefnogi’r ddarpariaeth ofal plant o ansawdd a gynigir i’r gymuned leol.

“Mae LCDP yn rhedeg sawl math o glybiau Allysgol ac rydym yn annog yr holl staff gyda’u DPP. Mae nifer o’n staff wedi cymryd rhan yn fforwm chwarae Chwarae Cymru, yn annog ennill cymwysterau gwaith chwarae a’r holl ofynion gorfodol fel diogelu a chymorth cyntaf; maen nhw hefyd yn mynychu gweithdai chwarae ac unrhyw hyfforddiant sydd ar gael i ni.  Mae hawl plant i chwarae’n bwysig iawn i ni. Rydym yn  awyddus i’r staff ddeall sut mae hyd i gyd yn gweithio a’r gwerthoedd y mae’n ei gyflwyno i’r plant.”

Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg: Canolfan Gofal Plant Woodlands Cyf. (Castell-nedd Port Talbot)

Hyrwyddwr Iaith Gymraeg (Clwb) Clwb Gofal Plant Allysgol sydd wedi hyrwyddo’r Iaith Gymraeg ac wedi ymdrechu i wella lefel yr Iaith Gymraeg sy’n cael ei ymgorffori i’r Lleoliad a chefnogi eu dysgu eu hunain neu ddysgu gan eraill.

“Mae’r lleoliad  hwn wedi gwneud ymdrech fawr i wreiddio diwylliant Cymru drwy’r lleoliad cyfan, a nifer o’r staff yn ymrestru ar gwrs Camau i helpu i gyflwyno mwy o Gymraeg i’r lleoliad, Wedi derbyn e-bost hyrwyddo gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs fe wnaeth nifer o’r staff benderfynu ymrestru ar y cwrs Camau dros y  flwyddyn a hanner ddiwethaf, ac mae rhai ohonynt wedi symud yn eu blaenau a chwblhau’r cwrs Mynediad Rhan 2. Mae’r lleoliad ar y cyfan wedi dechrau rhoi ar waith yn y lleoliad y sgiliau Cymraeg a ddysgwyd trwy Camau. Mae’r staff wedi bod yn defnyddio’r Gymraeg yn eu trefn ddyddiol gan ddefnyddio ymadroddion a geiriau fel ‘amser snac’, amser cinio’ ac ‘amser tacluso’ yn ogystal â defnyddio  geiriau Cymraeg allweddol yn y gornel chwarae. Daliwch ati Woodlands! Da iawn!!”

Cefnogi Llesiant Staff: Dylan’s Den (Rhondda Cynon Taf)

Rheolwr, Perchennog, Arweinydd Chwarae neu Bwyllgor sydd wedi ymdrechu i gefnogi iechyd meddyliol a llesiant eu staff, er mwyn creu amgylchedd chwarae sy’n iach ac yn gadarnhaol.

“Mae’r rheolwyr yn Dylan’s Den mor gefnogol a deallgar, y cyflogwyr gorau i mi erioed weithio iddyn nhw. Mae Nia a Gina ar ben arall y ffôn ar unrhyw adeg, nid yn unig i helpu gyda materion gwaith, maen nhw’n ein cefnogi mewn materion bob dydd hefyd. Yn  ystod  Covid, roeddem ni nid yn unig i ffwrdd o’r gwaith ar gyflog  llawn; fe gawsom ein talu hefyd i fynd ar gyrsiau i ddatblygu ei  hunain a’n  harferion. Cyn cyhoeddi Saib Swydd roedden nhw eisoes wedi cyhoeddi y byddai’r  staff i ffwrdd o’r gwaith ar gyflog llawn. Maen nhw wir  yn gofalu am eu staff ac yn gofalu am ein llesiant drwy gyfarfodydd rheolaidd a hefyd cronfa lesiant sy’n cael ei defnyddio  i brynu  pethau neis i ni. ☺️. Mae hyn wir yn hwb i forâl y staff.”

Gwobr Gwirfoddolwr: Linda Bunkell, TEMPS (Wrecsam)

Gwobr Gwirfoddolwr i Wirfoddolwr sydd wedi gweithio’n galed ac wedi buddsoddi eu hamser eu hunain i gefnogi eu Clwb Gofal Plant Allysgol a’r gymuned.

“Mae Linda’n Ymddiriedolwr gwerthfawr tu hwnt, a’i hymroddiad i’r clwb yn rhyfeddol. Mae Linda’n helpu gyda phopeth, mae wedi bod yn gysylltiedig â’r clwb ers o leiaf 25 mlynedd, a phan benderfynodd y clwb gynnwys rhieni yn fwy, ethol Ymddiriedolwyr a dod yn SCE, Linda oedd y gyntaf i ymuno â TEMPS; mae ei gwybodaeth, ei phrofiad a’i brwdfrydedd yn  rhyfeddol.”

Rhestr o raddedigion Gweithwyr Chwarae yn 2022 (Ionawr – Rhagfyr) a’r rhai a gyflawnodd ym maes Dysgu’r Gymraeg

Hoffem hefyd ddathlu ein graddedigion Gwaith Chwarae 2022 (Ionawr – Rhagfyr) a’r rhai a gyflawnodd ym maes dysgu’r Gymraeg. Yn ystod y flwyddyn gwelsom nifer rhyfeddol o Weithwyr Chwarae’n ymgysylltu â’n hyfforddiant ac o ganlyniad yn ffynnu yn eu rolau eu hunain, a’r dysgwyr yn gwneud newidiadau ystyrlon i’w harferion gan ddod â budd i blant ar hyd a lled Cymru.

A allech chi fod yn un o’n henillwyr yn 2024?