Dyddiau Ymwybyddiaeth

Diwrnod Parkinson’s y Byd – Ebrill 11 2023

Bwriad Diwrnod Parkinson’s y Byd yw codi ymwybyddiaeth o anhwylder Parkinson a’r heriau a wynebir gan y sawl sy’n dioddef o’r cyflwr.  Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth y mae hefyd yn gyfle i godi arian i Parkinson’s UK sydd yn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth yn ogystal â chefnogi ymdrechion i ymchwilio i driniaethau a dulliau iacháu.


Wythnos Nen Dywyll Ryngwladol 2023 –  Ebrill 15-22 2023

Dathlir Wythnos Nen Dywyll ar draws y byd er mwyn gwarchod ac annog mwy am nen y nos. Rydym yn ffodus yng Nghymru i fod â Safleoedd Darganfod Nen Dywyll ar hyd a lled y wlad, lle gallwn syllu ar y sêr a’r planedau heb ond ychydig – neu ddim – llygredd golau. Am syniadau ar sut i fod ynglŷn â hyn a dod o  hyd i ddigwyddiad yn agos atoch chi, ewch i’r wefan yma.