Bwrsariaeth CYMell

Mae cymwysterau gwaith chwarae yn gwella gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau chwarae’r plant yn eich gofal.  

Mae bwrsariaeth ar gael i gefnogi lleoliadau i dalu costau aelodau o’u staff sy’n mynychu cyrsiau cymhwyso mewn Gwaith Chwarae a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg, drwy ariannu prosiect CYMell. 

Telir y fwrsariaeth i’r lleoliad y mae ei staff yn mynychu hyfforddiant y tu allan i’w horiau gwaith neu i dalu am staff i gyflenwi’r aelod hwnnw o staff os yw hynny o fewn oriau gwaith. 

I gael gwybod mwy am y cymwysterau sydd ar gael, cwblhewch  Ddatganiad o Ddiddordeb   a  daw aelod o’r tîm i gysylltiad â chi