Grant i gynorthwyo gyda chofrestru ag AGC

A ydych chi’n Glwb Gofal Plant Allysgol cyfrwng- Cymraeg neu ddwyieithog sydd heb ei gofrestru?

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cynllun grantiau i gefnogi gyda chostau sy’n gysylltiedig â chyflwyno cais i gofrestru ag AGC ac ennill y cofrestriad.

Mae llawer o wahanol glybiau a gweithgareddau ar gael i blant a rhieni ddewis ohonynt. Mae cofrestriad AGC yn cydnabod anghenion rhieni/gofalwyr sy’n gweithio/hyfforddi, gan ganiatáu hyblygrwydd i agor yn hirach ac ymestyn i ofal cyn-ysgol, gofal cofleidiol a gwyliau, a’u galluogi i gael mynediad at gynlluniau cymorth ariannol fel Gofal Plant Di-dreth.

Mae cofrestru yn ategu at eich enw da, gan ennyn hyder ynoch fel darparwyd gofal plant ysgogol ac o ansawdd.

Os ydych yn Glwb Gofal Plant Allysgol cyfrwng- Cymraeg neu ddwyieithog heb gofrestru ac â diddordeb mewn cael eich cofrestru gydag AGC, cysylltwch â’ch swyddfa ranbarthol:

Cysylltwch â Ni