Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Mai 13, 2023 – Diwrnod Adar Mudol y Byd

Mae’n adeg paratoi ar gyfer Diwrnod Adar Mudol y Byd. Ddwywaith bob blwyddyn, mae 400 o wahanol adar, sef 40% o’r holl boblogaidd adarol, yn hedfan i fannau lle ceir hinsawdd gynhesach dros y gaeafau cyn dychwelyd adref i baru. Gwnânt hyn  er mwyn cael hyd i fwyd. Fel pobl gallwn oll werthfawrogi gwerth dilyn bwyd o gwmpas y byd. Beth am ddathlu ein  ffrindiau pluog heddiw.

Cewch wybod mwy yma


Mai 15 – 19, 2023 – Wythnos Cerdded i’r Ysgol

Mae her gerdded 5-diwrnod Living Streets yn ddathliad blynyddol o’r daith gerdded i’r ysgol, a’r gweithgaredd perffaith i ddathlu’r Mis Cerdded Cenedlaethol y mis Mai hwn.

THEMA A GWEITHGAREDD ELENI: CERDDED GYDA BYWYD GWYLLT

Mae her eleni’n annog plant i deithio’n weithiol i’r ysgol bob diwrnod o’r wythnos. Wrth gwrdd ag amrywiol anifeiliaid ar hyd y ffordd, byddant yn dysgu am y rhesymau pam y dylid cerdded a’r gwahaniaeth y gall ei wneud i unigolon, cymunedau a’r blaned!

Dowch yn rhan o hyn yma


Mai 12, 2023 – Diwrnod Cenedlaethol y Limrig

Mae ar bawb angen rhywfaint o wiriondeb y neu bywydau o bryd i’w gilydd, ac mae Diwrnod Cenedlaethol y Limrig yn darparu’r cyfle blynyddol perffaith. Mae’r pennill cyfarwydd hwn a ddathlir bob blwyddyn ar Fai’r 12fed yn enwog am ei themâu llawn hiwmor, a choch weithiau.  Yn rhai a adnabyddir yn syth o’u rhythm, caiff y rhain eu llulnio’n gelfydd i roi gwên ar wynebau.

Neilltuir Mai’r 12fed ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol y Limrig i nodi pen-blwydd Edward Lear, yr ysgrifennwr Saesneg a oedd yn adnabyddus am ei ryddiaith a barddoniaeth wirion. Ac Edward Lear a wnaeth y Limrig yn boblogaidd drwy ei lyfr,  A Book of Nonsense, a gyhoeddwyd yn  1846. Roedd ei limrigau’n boblogaeth ar  y pryd hwnnw ac mae’r ffurf yma ar lenyddiaeth ddisynnwyr wedi llwyddo i gadw ei hapêl tan heddiw.

Fel arfer bydd llinellau cyntaf, ail a’r olaf yn gorffen â’r un rhythm, a’r drydedd a phedwaredd linell fyrrach â’u hodl eu hunain.

Gall y math hwn o bennill fod yn gyflwyniad ardderchog o’r syniad o farddoniaeth i blant, ac mae Diwrnod Cenedlaethol y Limrig yn help i gynnal ymwybyddiaeth o’r brand  hwn o gerdd.

Er na ddyfeisiwyd limrigau gan Edward Lear, mae cynnal y Diwrnod Limrig Cenedlaethol ar ei ben-blwydd yn gydnabyddiaeth addas i’r dyn a ddaeth â nhw i sylw cyhoeddus ehangach.