Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Mis Hanes Lleol a Chymunedol 2023 Mai 1 - Mai 31 

Mis Mai i gyd yw mis Hanes Lleol a Chymunedol ar draws y DU! Mae’r Gymdeithas Hanes, sy’n elusen sydd wedi’i chofrestru a’i hymgorffori gan y Siarter Frenhinol, yn cefnogi addysg, mwynhad a dysgu hanes ar bob lefel o addysgu ac fel oedolyn. Eu cenhadaeth yw “ysbrydoli, galluogi ac annog” pobl o bob cefndir i ymwneud â hanes, ac mae’r mis hanes Lleol a Chymunedol yn un o’u ffyrdd o wneud hynny. 

Y mis hwn mae’r Gymdeithas Hanes am i bawb ymchwilio a darllen, rhannu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am hanes eu cymunedau a’u hardaloedd lleol.  Maen nhw hefyd eisiau i bobl gynnal digwyddiadau yn eu hardal leol i dynnu sylw at y rhain, ac i hyrwyddo a hysbysebu ardaloedd sydd ynglŷn â hanes a  threftadaeth. 


Mai 15 – 21, 2023 – Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl 

Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl yw’r wythnos genedlaethol yn y DU i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddyliol a phroblemau iechyd meddwl.  

Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth ynghylch iechyd meddyliol ymysg y cyhoedd a sicrhau bod cymunedau’n cydnabod y rhan sydd gan bob person i’w chwarae er mwyn creu cymdeithas sy’n hyrwyddo iechyd meddwl. 

Cewch wybod mwy yma


Wythnos Arbed Dŵr 2023 Mai 15 – Mai 19 

Eleni bydd Waterwise yn cynnal yr Wythnos Arbed Dŵr am y 7fed flwyddyn yn olynol.  Dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol i gymryd rhan yn yr ymgyrch! 

Yn ystod yr wythnos byddwn ynd ysgu sut i leihau ein defnydd o ddŵr a pham ei bod yn bwysig gwneud hynny. O arbed arian i achub byd natur, gallwn oll wneud gwahaniaethau bychain yn ein bywydau, rhai a fydd, wedi’u cyfuno, yn cael effaith enfawr ar ein dyfodol.


Wythnos Dysgu wrth Weithio Mai 15 – 21 

Ewch ati i feithrin diwylliannau dysgu yn eich gweithle ac ysbrydoli dysg. 

Mae Wythnos Dysgu wrth Weithio’n ddigwyddiad blynyddol unigryw.  

Fe’i harweinir yn genedlaethol gan Campaign for Learning a chan gyflogwyr yn eu sefydliadau.  

Gwelwch yma beth all eich sefydliad chi ei wneud.  

A diddordeb mewn cofrestru am gymhwyster â Hyfforddwyr a argymhellir gan 91% o’n Dysgwyr? Gallwch ennill cymhwyster Gwaith Chwarae drwy gyfrwng cwrs 12-wythnos sy’n ysbrydoli ac yn ychwanegu at wybodaeth gweithlu sydd eisoes yn sgilgar i ddeall a rhoi ar waith y dull gwaith-chwarae. Cwblhewch fynegiant o ddiddordeb heddiw! 

Ddim yn siŵr pa gymwysterau a hyfforddian sydd eu hangen yn eich lleoliad? Yna llenwch Ddadansoddiad  o Anghenion Hyfforddi er mwyn inni allu’ch cyfeirio i’r man iawn.