Safonau Gofynnol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (i blant hyd at 12 oed), a gyhoeddwyd ar 18 Mai 2023

Heddiw, mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn lansio’r fersiwn ddiwygiedig o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir.

Newyddion Diweddaraf:

Yn gynharach eleni, lluniwyd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, a chroesawyd llawer o’r cynigion a wnaed. Mae’r rhain wedi’u crynhoi yn yr adran o’r canllawiau ar Newidiadau Pwysig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol.

Gwnaed y rhan fwyaf o’r newidiadau mewn ymateb i adroddiad adolygiad 2019 o’r Safonau a’i argymhellion, ac mae Llywodraeth Cymru’n gobeithio y bydd y newidiadau o fudd i ddarparwyr. Er enghraifft, mae Ll.C. wedi diwygio’r safonau i ganiatáu i ganran o’r staff sy’n “gweithio tuag at gymwysterau” gael eu cynnwys yn y cymarebau staffio. Gallai hyn helpu i leddfu pryderon ynghylch staffio a recriwtio. Lle rydym wedi cynyddu’r gofyniad am hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig a diogelu, gall hyn roi tawelwch meddwl i staff a rhieni bod y ddarpariaeth o safon uchel.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi rhoi gwybod i bob darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru am y canllawiau diwygiedig.