Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Wythnos Bywyd Gwyllt Gerddi June 5 – June 11

Mae gerddi’r DU yn llawn rhyfeddod. Ac rydym am ddathlu’r ecosystemau yma drwy dynnu sylw at y creaduriaid rhyfeddol sy’n byw  yn ein gerddi, a’u helpu i ffynnu.

Felly, mynnwch flas o’r holl ddaioni naturiol sydd gan  Wythnos Bywyd Gwyllt Gerddi i’w gynnig. Gallech wneud hyn drwy hyrwyddo ffyrdd i helpu i warchod a chefnogi ein ecosystemau cytbwys, a adnabyddir yn well fel – ein gerddi.

#GardenWildlifeWeek


Wythnos Diogelwch Plant

Mehefin 5 – Mehefin 11

Yr Wythnos Diogelwch Plant yw ymgyrch addysg gymunedol flynyddol yr ymddiriedolaeth er atal damweiniau i blant, Child Accident Prevention Trust. Y mae’n gatalydd i filiedd o drafodaethau a gweithgareeddau ar ddiogelwch ar hyd a lled y DU.

Ymunwch yma  i gael cyngor ac adnoddau ar ddiogelwch yn rhad ac am ddim yn eich  mewnflwch.

Thema eleni yw : Diogelu Syml

Mae damweiniau’n aml yn digwydd pan fydd llawer o bethau’n digwydd. Felly, rhaid i atal damweiniau fod yn syml.

I ymarferwyr, mae For practitioners, mae canolfan adnoddau gwbl newydd, sy’n dwyn at ei gilydd yr holl adnoddau diogelwch sydd yn rhad ac am ddim.


Pyjamarama Mehefin 16 2023

Bydd Pyjamarama 2023 ar Fehefin 16. Fyddwch chi’n ymuno â ni?

Mae Pyjamarama ynghylch cael y diwrnod darllen gorau erioed, mewn pyjamas, i godi arian i gyrraedd a throsglwyddo’r manteision darllen, sy’n hudol ac yn gydol-oes, i fwy o blant.

Mae hyn mor syml. Cofrestrwch heddiw i gael mynediad at ein gweithgaereddau, adnoddau syniadau a fideos ardderchog ar gyfer Pyjamarama 2023.