Neges ‘Pen-blwydd Hapus’ gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

“Hoffwn ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn 21 oed. Rwy’n werthfawrogol iawn o’r cyfraniad sylweddol y mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn ei wneud o ran sicrhau bod y sector gofal plant y tu allan i oriau ysgol yn cael cefnogaeth ledled Cymru. Mae’r cymorth a’r gefnogaeth y mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn ei ddarparu mor bwysig o ran helpu ein cymunedau i gael mynediad at ddarpariaeth all-ysgol o ansawdd sy’n rhoi cyfleoedd mor werthfawr i’n plant allu datblygu eu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol.

Rwyf hefyd yn croesawu’r ffordd y mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn ceisio ymateb i anghenion y sector gofal plant y tu allan i oriau ysgol, sy’n newid o hyd, ac rwy’n sicr y bydd eu gwefan newydd yn ffynhonnell allweddol barhaus o gyngor ac arweiniad i bawb sy’n ymwneud â’r maes hwn.

Pob dymuniad da i bawb” – Julie Morgan AS

Diolch, Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, oddi wrth bawb yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs am eich cefnogaeth barhaus i ni ac i’r sector Gofal Plant Allysgol.