Gwobrau 2024 – Gofal Cymdeithasol Cymru

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn awr yn croesawu ceisiadau ac enwebiadau ar gyfer Gwobrau 2024. 

Eu gwobrau nhw yw’r rhain; maent yn cydnabod, yn dathlu, ac yn rhannu’r gwaith nodedig sy’n cael ei wneud ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. 

Yn awr yn fwy nag erioed, mae’n bwysig ein bod ni’n cydnabod ac yn dathlu gwaith y sector, a dyna pam ein bod ni’n awyddus eleni i gael cynifer o geisiadau ac enwebiadau â phosibl gan y sector gofal cymdeithasol/gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar. 

Cewch wybodaeth am Wobrau 2024, gan gynnwys manylion am y categorïau, y dyddiad cau, a sut i ymgeisio yma.