Diwrnodau Ymwybyddiaeth

DiwrnodByd-eangAnifeiliaidHydref 4 20223  

Dathlir Diwrnod Byd-eang Anifeiliaid ar y 4tdd o fis Hydref, a’i fwriad yw  codi statws anifeiliaid er mwyn gwella safonau lles byd-eang. Roedd ei sefydlu yn 1931 yn ffordd o dynnu sylw at rywogaethau mewn perygl, ond ers hynny mae wedi tyfu i gwmpasu mwy o elfennau o les anifeiliaid ac ymwybyddiaeth. Dewiswyd Hydref 4ydd am ei fod yn cyd-daro â Diwrnod Gwledd San Ffransis o Assisi, sant a oedd yn adnabyddus am fod yn un â chariad tuag at anifeiliaid. Ond nid yw Diwrnod Byd-eang Anifeiliaid yn gysylltiedig ag unrhyw grefydd, ac fe’i dathlir ar hyd a lled y byd. 


Wythnos Ofod y BydHydref 4 – 10 2023 

Wedi ei sefydlu yn 1999 gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, mae Wythnos Ofod y byd yn dathlu cyfraniadau gwyddoniaeth y gofod a thechnoleg i wella cyflwr yr hil ddynol.  


Mis Hanes Pobl DduonHydref 2023

Mis Hanes Pobl Dduon 2023: Dathlu ein Chwiorydd, Talu Teyrnged i’n ein Chwiorydd, ac Anrhydeddu Matriarchiaid Symudiadau 

 Mae menywod du wedi bod wrth galon mudiadau cyfiawnder cymdeithasol trwy gydol hanes, yn brwydro’n ddewr yn erbyn gormes ac yn eiriol dros newid. Fodd bynnag, mae eu cyflawniadau wedi cael eu hesgeuluso neu eu hanghofio yn aml. Mae Mis Hanes Pobl Dduon 2023 yn cynnig cyfle arwyddocaol i gydnabod a dathlu llwyddiannau eithriadol menywod du trwy ganolbwyntio ar anrhydeddu matriarchiaid mudiadau a thalu teyrnged i’n chwiorydd.