27.10.2023 |
Syniadau Hydrefol i Godi Arian
Guto Ffowc – Yn draddodiadol roedd plant yn gwneud Guto Ffowc trwy stwffio hen ddillad gyda gwellt a phapur newydd. Yna byddai’r rhain yn cael eu pedlera o gwmpas i gasglu arian i brynu tân gwyllt ar gyfer noson goelcerth. Yn lle hynny, fe allech chi gael cystadleuaeth gwneud-gei. Gallai casgliad o geis gorffenedig gael eu harddangos yn unrhyw le y gallent gael eu beirniadu neu bleidleisio arno.
Hwyl Pobi – Gallai bisgedi ag eisin tân gwyllt arnynt hefyd gael eu gwneud mewn clwb a’u gwerthu i rieni: pwy sy’n mynd i allu gwrthsefyll prynu un!
Calendr – Yr Hydref yw’r amser perffaith i ddechrau rhoi calendr at ei gilydd i’w werthu mewn ffeiriau ysgol sydd ar y ffordd wrth i’r Nadolig nesáu. Dechreuwch drwy dynnu lluniau o’r plant yn gwneud gwahanol weithgareddau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys pob plentyn yn y lluniau neu gofynnwch i blant dynnu llun i wneud y mwyaf o’ch marchnata. Gallwch lunio’ch calendr eich hun neu ofyn i gwmni ar-lein am bris rhesymol i’w hargraffu, ond gwnewch yn siŵr eu bod yn barod mewn digon o amser cyn y flwyddyn galendr newydd er mwyn gwerthu cynnifer â phosibl.
4 Cynghorion Campus ar Godi Arian
- Gofynnwch i’r plant gymryd rhan. – Mae’n hyfryd cynnwys plant mewn gweithgareddau codi arian o oed cynnar, gan ddangos i blant ei bod yn bwysig ac yn bleserus i helpu eraill. Mae’n sgil bywyd pwysig ac mae’n helpu i adeiladu’r math o gymuned rydyn ni i gyd ei heisiau.
- Defnyddiwch eich cysylltiadau. – Bydd dweud wrth eich ffrindiau, teulu a chydweithwyr, pobl yr ydych yn eu hadnabod orau, a sut y gallant fod o fudd i’ch codwr-arian yn fan cychwyn gwych.
- Byddwch yn hyderus! – Nid yw denu rhoddion a nawdd yn dod yn naturiol, ond gydag ychydig o ymdrech, bydd yn werth chweil! Nid ddylai hyn fod yn rhy anodd os nad ydych yn ei adael tan y diwedd.
- Gwybod y ffeithiau – Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrth bobl am eich digwyddiad. Dwedwch wrthyn nhw beth fyddwch chi’n ei wneud, i ble y bydd yr arian a godwch yn mynd a a sut y bydd o fudd. Gallwch wneud hyn hefyd pan fydd pobl yn eich holi. Bydd gwybodaeth a straeon penodol am y codi-arian yn sicr o helpu.