Y Comisiynydd am weld gwelliant yng Ngwasanaethau Cymru

Yn ei hadroddiad sicrhau cyntaf ers iddi ymgymryd â’i swydd fel Comisiynydd y Gymraeg, mae Efa Gruffudd Jones yn annog sefydliadau ledled Cymru, nid yn unig i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, ond eu hyrwyddo.

Mae’r adroddiad, o’r enw Codi’r Bar yn gyfle i adfyfyrio ar y ffordd y mae sefydliadau’n ystyried yr iaith wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a darparu gwasanaethau yn y Gymraeg.

Er bod yr adroddiad yn cydnabod bod lefelau cydymffurfio wedi gwella ar y cyfan, yn enwedig gan sefydliadau sydd wedi bod yn destun Safonau’r Gymraeg ers peth amser, mae’n nodi bod angen mynd i’r afael â’r her o greu amgylchedd lle mae’n bosibl defnyddio’r Gymraeg yn naturiol bob dydd. Mae hyn yn golygu gweithio i wella’r gwasanaethau a gynigir i bobl ar lafar, p’un ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.

Darllenwch fwy yma