Diwrnodau Ymwybyddiaeth 03/09/2022

Diwrnod Byd-eang Anifeiliaid – Dydd Mawrth Hydref 4 2022

Dathlir Diwrnod Byd-eang Anifeiliaid ar y 4tdd o fis Hydref, a’i fwriad yw  codi statws anifeiliaid er mwyn gwella safonau lles byd-eang. Roedd ei sefydlu yn 1931 yn ffordd o dynnu sylw at rywogaethau mewn perygl, ond ers hynny mae wedi tyfu i gwmpasu mwy o elfennau o les anifeiliaid ac ymwybyddiaeth. Dewiswyd Hydref 4ydd am ei fod yn cyd-daro â Diwrnod Gwledd San Ffransis o Assisi, sant a oedd yn adnabyddus am fod yn un â chariad tuag at anifeiliaid. Ond nid yw Diwrnod Byd-eang Anifeiliaid yn gysylltiedig ag unrhyw grefydd, ac fe’i dathlir ar hyd a lled y byd.

 

Wythnos Ofod y Byd – Dydd Mawrth, Hydref 4 2022 – Dydd Llun Hydref 10 2022

Wedi ei sefydlu yn 1999 gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, mae Wythnos Ofod y byd yn dathlu cyfraniadau gwyddoniaeth y gofod a thechnoleg i wella cyflwr yr hil ddynol. Thema eleni yw ‘Y Gofod a Chynaliadwyedd’ sydd â’i ffocws ar gyrraedd at gynaliadwyedd y gofod a chynaliadwyedd o’r gofod, a sut y mae’r hil ddynol yn defnyddio’r gofod, yn bwysicaf oll yr ardal gylchdro o gwmpas Y Ddaear. O’r 169 o dargedau sy’n ffurfio 17 Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, 65 ohonynt yn cael budd uniongyrchol o loerennau o’r Ddaear a thechnolegau cysylltiedig.

 

Diwrnod Gwên y Byd – Dydd Gwener, 7 Hydref 2022

Mae Dydd Gwener Cyntaf mis Hydref yn ddiwrnod gwên y byd. Diwrnod syml a thasg syml. Gwnewch un tro caredig a gwnewch i rywun wenu.  Fe’i sefydlwyd gan Harvey Ball, crëwr yr wyneb gwên, yn 1963,  a death yn un o’r symbolau ewyllus da a hwyliau da mwyaf adnabyddus. Roedd Ball o’r farn y dylem neilltuo un diwrnod ar gyfer gwenau a throeon caredig drwy’r byd drwyddo draw. “Ni yr wyneb gwên unrhyw wleidyddiaeth, daearyddiaeth na chrefydd …. [felly] am unj diwrnod bob blwyddyn, ni ddylem ni chwaith”. Rhannwch y newydd eich bod wedi gymryd yr her â’r hashnod #worldsmiledaychallenge