29.09.2022 |
Gofynion Hysbysu o Covid-19
O Ddydd Iau Medi 29 2022 ni fydd yn ofynnol arnoch i adrodd ar achosion unigol o COVID-19 i Arolygiaeth Gofal Cymru.
Fel yn achos clefydau heintus eraill, dim ond yn achos brigiad o COVID-19 y bydd yn ofynnol i chi adrodd. Y diffiniad o frigiad yw dau achos neu fwy.
Ni fydd angen i chi gyflwyno hysbysiad o gau dros dro yn sgil COVID-19 mwyach.