Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Diwrnod Byd-eang y Llyfr 2023

Eleni bydd Diwrnod Byd-eang y Llyfr yn digwydd ar Ddydd Iau 2 Mawrth 2023 a bydd y pwyslais ar ei wneud yn Ddiwrnod Byd-eang y Llyfr CHI.

Beth yw’ch hoff lyfr chi hyd yma? Beth am annog y plant yn eich Clwb i ddod â’u hoff lyfr i mewn i’w ddarllen neu sôn amdano wrth y plant eraill? Ac efallai creu llyfrgell clwb lle gellir dod â llyfrau sydd wedi eu darllen, neu wedi eu hen osod o’r neilltu, i mewn i’r clwb i’w hailddefnyddio/ail-ddarllen gan blant eraill? Gall hwn hefyd fod yn gyfle i feddwl am gael mwy o lyfrau Cymraeg ar gyfer y rhai sy’n dysgu Cymraeg i’w defnyddio yn eich clwb. Beth am edrych  ar y gwefannau defnyddiol isod am lyfrau yr hoffech eu cael efallai i’ch clwb.

Llyfrau Saesneg i blant: https://www.booktrust.org.uk/books-and-reading/our-recommendations/100-best-books/

Llyfrau Cymraeg i blant: https://llyfrau.cymru/en/ysgolion/schools-love-reading/


Pythefnos Fairtrade Chwefror 27 2023 – Mawrth 12 2023

Mae’r  Fairtrade Foundation â neges syml i’w rhannu yn ystod y pythefnos hwn. Maen nhw am annog pawb i wneud y newid i ddechrau defnyddio cynhyrchion Fairtrade er mwyn gwarchod cynhyrchwyr rhai o’n hoff fwydydd megis coffi, fananas a siocled, ac i ddiogelu dyfodol y blaned. Mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio r cynaeafau, ac mae’r effaith hon ynghyd â masnachu annheg yn gwthio cymunedau sy ‘n tyfu cnydau megis bananas at ymyl y dibyn. Ewch i wefan fairtrade am fwy o wybodaeth ar sut y gallwch wneud y newid a dewis cynhyrchion tecach, mwy cynaliadwy.


Diwrnod Byd-eang Bywyd Gwyllt Mawrth 3 2023

Mae thema Diwrnod Byd-eang Bywyd Gwyllt yn anrhydeddu’r rhai sy’n gwneud gwahaniaeth  i fywyd gwyllt. Y mae’n gyfle i ddathlu’r anifeiliaid a’r planhigion prydferth ac amrywiol ar draws y byd ac i godi ymwybyddiaeth o gadwraeth, ei fuddion a’i bwysigrwydd. Mae’r diwrnod hefyd yn ein hatgoffa o’r angen i ymladd yn erbyn troseddau’n ymwneud â bywyd gwyllt a’r gostyngiad mewn rhywogaethau oherwydd gweithgaredd dynol. Mae’r diwrnod yn gydnaws â Nod Datblygidad Cynalidwy 15 a osodwyd i lawr gan y Cenhedloedd Unedig, ac mae gwefan arbennig i gynyddu ymwybyddiaeth o’r diwrnod. Hefyd mae gan Twinkl  rai gweithgareddau ac adnoddau addas y gall plant eu defnyddio ar y Diwrnod Byd-eang Bywyd Gwyllt hwn.