Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Ymgyrch ‘No Now May’

I helpu ein gwenyn, glöynnod byw a’n bywyd gwyllt, dywedwch ‘Na’ i dorri eich lawnt ym mis Mai. Dydy ymgyrch ‘No Mow May’ Plantlife ddim yn gofyn i chi wneud llawer. Yn wir, mae’n gofyn i chi beidio â gwneud unrhyw beth o gwbl… Cadwch eich peiriant torri gwair dan glo ar Fai y cyntaf a gadewch i’r blodau gwyllt yn eich lawnt flodeuo, gan ddarparu gwledd o neithdar i’n pryfed peillio llwglyd. Mynnwch wybod mwy.


Calan Mai ar Fai 1 2023

Mae Calan Mai neu Galan Haf (diwrnod cynta’r haf) yn draddodiad hynafol yng Nghymru, un y gellir ei olrhain yn ôl i’r dathliad Paganaidd, ‘Beltane’. Fe’i cynhelir ar Fai’r cyntaf ac mae’n dathlu diwrnod cyntaf yr haf, a elwir hefyd yn Mayday mewn ardaloedd eraill yn y DU. Cysylltir tanau â’r dathliad yn aml, fel symbolau o buro, lwc dda i’r cynhaeaf a ffyniant personol. I wybod sut y dathlwyd hyn yn draddodiadol yng Nghymru, cliciwch yma..