18.05.2023 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Mai 23, Diwrnod Byd-eang y Crwban 2023
Diwrnod arbennig i werthfawrogi’r arwyr hanner-cragen yma. Pwrpas Diwrnod Byd-eang y Crwban yw tynnu sylw at grwbanod mawr a bach a chynyddu’r wybodaeth ohonynt a’r parch tuag atynt; hefyd i annog pobl i gymryd camau i’w helpu i oroesi a ffynnu.
Lawrlwythwch y pecyn llawn hwyl #WorldTurtleDay Party Pack
Mai 29, 2023 – Diwrnod Dysgu am Gompostio
Harnesiwch rym pry genwair a throwch eich gwastraff organig yn gompost llawn daioni i’ch gardd. Dyma’r diwrnod i godi ymwybyddiaeth o sut y gallwn wneud ein planed ychydig yn well gyda’r defnyddiau sydd ar gael yn naturiol. Mae compostio’n help i ailbwrpasu defnyddiau gwastraff organig, ac ar yr un pryd yn rhoi manteision economaidd ac ecolegol pan ddefnyddir compost i helpu planhigion i dyfu, boed hynny mewn gerddi, ar gyfer tirlunio neu ffermio.
Mynnwch wybod mwy yma
Wythnos Arddio Genedlaethol y Plant Mai 27ain – Mehefin 4ydd 2023
Gyda’n Gilydd, rhown help i blant dyfu.
Mae Wythnos Arddio Genedlaethol y Plant yn dathlu’r hwyl sydd mewn gerddi i blant. Gall plant, rhienu neiniau a theidiau, ysgolion neu fusnesau garddio ddod o hyd i syniadau ar gyfer prosiectau a gweithgareddau gardd llawn hwyl yma.