Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Mae Diwrnod Ffoaduriaid y Byd 2023 ar Fehefin 20fed. Mae’n ddiwrnod rhyngwladol o ymwybyddiaeth, a gydlynir gan y Cenhedloedd Unedig i ddangos cefnogaeth i ffoaduriaid sy’n cael eu gorfodi o’u cartrefi gan drais. Eleni y thema yw tosturi.
Ffoadur yw rhywun sydd wedi gorfod gadael ei gartref a’i wlad, gan nad yw’n gallu aros. Cafodd Diwrnod Ffoaduriaid y Byd ei lansio yn 2000 gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig. Mae hefyd yn cyd-fynd ag Wythnos Ffoaduriaid y Byd, Mehefin 20fed-26ain.

Mae Diwrnod Ffoaduriaid y Byd yn achlysur i feithrin empathi a dealltwriaeth ac mae’n dathlu cryfder a dewrder pobl sydd wedi cael eu gorfodi i adael eu gwlad enedigol.


Mehefin 18 – 25, 2023 – Wythnos Diogelwch Dŵr

Ymgyrch ddiogelwch dŵr dros yr haf yw’r Wythnos Diogelwch Dŵr, a gaiff hefyd ei galw’n Wythnos Atal Boddi, ac mae’n digwydd bob blwyddyn ar draws gwledydd Prydain ac Iwerddon. Prif nod Wythnos Diogelwch Dŵr yw addysgu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl i fod yn ddiogel a mwynhau yn y dŵr.


Mehefin 21, 2023 – Diwrnod Hiraf yr Haf! (Hirddydd Haf)

Mae’r Diwrnod Hiraf (Hirddydd Haf) yn digwydd un ai ar 20, 21, neu 22 Mehefin, ond eleni bydd ar 21 Mehefin. Mae’r dyddiad yn newid gan ei fod yn dibynnu ar pryd mae’r haul yn cyrraedd ei bwynt mwyaf gogleddol o’r cyhydedd wybrennol. Serch hynny, mae’n nodi dechrau tymor heulog yr haf. Dydy hi ddim yn rhy hwyr i ddechrau cynllunio gweithgareddau awyr agored i’w mwynhau yn yr haul tra bo modd gwneud hynny.