Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Gorffennaf Di-blastig 

Mae Gorffennaf Di-blastig yn fudiad byd-eang sy’n helpu miliynau o bobl i fod yn rhan o’r ateb i lygredd plastig fel y gallwn gael strydoedd a moroedd glanach a chymunedau hardd. A fyddwch chi’n rhan o Orffennaf Di-blastig drwy ddewis gwrthod plastigau defnydd untro? 

 Mae Gorffennaf Di-blastig yn darparu adnoddau a syniadau i’ch helpu chi (a miliynau o bobl eraill o gwmpas y byd) i leihau gwastraff plastic defnydd-untro bob dydd yn y cartref, y gweithle, yr ysgol a hyd yn oed eich caffi lleol. 

https://www.plasticfreejuly.org/ 


Gorffennaf  7, 2023 – Diwrnod Siocled Byd-eang  

Mae rhai’n ei hoffi’n dywyll a chwerw, eraill yn llyfn a melys, ond beth bynnag eich hoff flas, ymunwch â ni i’w flasu ar y Diwrnod Siocled Byd-eang ar  Orffennaf 7.  Boed fel haen am losin arall a chnau, neu wedi’i naddu a’i wasgaru dros bwdin danteithiol, mae siocled bob tro’n taro deuddeg. Er bod siocledi’n cael eu cydnabod fel bwyd sy’n cynyddu pwysau, yn rhyfeddol gallant hefyd fod yn gymorth i golli pwysau, ac i gadw pwysau o’i gymryd yn gymedrol. 


Gorffennaf yw’r Mis Picnic Cenedlaethol  

Wrth i’r tywydd gynhesu ac wedi i gawodydd  y gwanwyn gilio, bydd y wlad o gwmpas yn denu’r holl deuluoedd anturus hynny  sydd am gael hwyl yn yr haul. Mae parciau lleol o’r diwedd wedi ymddangos allan o gysgod yr awyr lwyd, ac mae modd mynd ati o ddifrif i gynnal  picnic! 

 Mae mis y picnic yn un eithriadol o hawdd i’w ddathlu! Does dim  ond angen i chi fynd allan i’r byd o’ch cwmpas a fwynhau’r holl olygfeydd a’r arogleuon sydd banddo i’w cynnig. Ymgasglwch eich teulu a’ch ffrindiau at ei gilydd mewn hoff barc cyfagos a dowch â’ch hoff fwydydd, y gellir eu bwyta’n oer, am bicnic oer, neu dowch â gril bychain a pharatoi  bwyd cynnes, hyfryd yn y fan a’r lle!