Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Gorffennaf 12, 2023 – Diwrnod Sgwrs Newydd 

Dathlir Diwrnod Sgwrs Newydd ar hyd a lled y byd ar Orffennaf 12 bob blwyddyn. Neilltuir yr ŵyl hon i annog pobl i siarad â’i gilydd, cyfathrebu eu hanghenion a’u bwriadau, a gwneud ffrindiau newydd. Mae Diwrnod Sgwrs Newydd hefyd yn cydnabod bod dechrau sgwrs yn anodd.  Gall fod yn lletchwith ac yn anghysurus dechrau sgwrs â rhywun sy’n newydd i chi, ond gall sgyrsiau newydd arwain at wobrwyon anghygoel,  megis cyfeillgarwch a chymuned gydol oes. Pa ffordd well i gael plant i ddechrau sgyrsiau na thrwy CHWARAE?


Gorffennaf 15, 2023 – Diwrnod Rhyngwladol Ras yr Wyddfa  

Cynhelir Ras Ryngwladol yr Wyddfa fel arfer ar y trydydd Dydd Sadwrn ym mis Gorffennaf yng Ngwynedd, ac eleni bydd yn digwydd ar Orffennaf 15.  Mae’n gystadleuaeth 10-awr o redeg dygn, Lanberis i gopa’r Wyddfa. Dywedir mai dyma un o heriau dycnwch  anoddaf Ewrop. Ydych chi erioed wedi profi rhedeg am 10 milltir yn y mynyddoedd? Gall rhai nad ydyn nhw’n rhedwyr ddim ond dychmygu ei fod yn brofiad llafurus iawn, ond eto’n un boddhaus wrth i’r rhedwyr groesi’r llinell derfyn.  

Mwy o wybodaeth yma 


Gorffennaf 15 , 2023 – Diwrnod Sgiliau Ieuenctid y Byd

Mae pobl ifanc bron dair gwaith  yn fwy tebygol o fod yn anghyflogedig nag oedolion, ac yn agored yn barhaus i  

swyddi o ansawdd is, mwy o anghyfartaledd yn y farchnad lafur a chyfnodau pontio ysgol-i-waith hirach a mwy ansefydlog. Hefyd, mae menywod yn fwy tebygol o fod wedi’u tan-gyflogi a’u tan-dalu, ac o fod yn gwneud gwaith rhan-amser neu’n gweithio o dan gontractau dros dro. Ydych chi’n gwybod am rywun a fyddai’n disgleirio o ddilyn gyrfa mewn Gwaith Chwarae? 

Mae Gwaith  Chwarae’n yrfa llawn hwyl a boddhad, ac yma yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs rydym yn barod i’ch helpu i gymryd y camau nesaf yn eich gyrfa Gwaith Chwarae, boed o ran chwilio am  swyddi neu roi’r hyfforddiant y bydd ei angen arnoch.