08.05.2024 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Dathlwch Wesak (Mai 23ain)
Gŵyl bwysig, liwgar a llon Fwdhaidd yw Wesak or Vesak sy’n dathlu geni’r Bwdha ar ddiwrnod lleuad lawn ym mis Mai (y 23ain). Weithiau addurnir cartrefi, bydd Bwdhyddion yn mynd i’w teml leol am wasanaethau ac yn offrymu bwyd, canhwyllau a blodau. Ym aml hefyd cynhwysir y seremoni ‘Baddon y Bwdha’ lle arllwysir dŵr dros ysgwyddau’r Bwdha i atgoffa’r bobl yno i buro’u meddyliau eu hunain rhag trachwant, casineb ac anwybodaeth.
Mae rhoi i eraill yn bwysig ac mae Bwdhyddion yn gwneud ymdrech arbennig i roi arian a rhoddin i bobl mewn angen ar adeg wesak er mwyn lledaenu hapusrwydd ac ewyllys da i eraill.
Syniadau am weithgareddau
Rhowch gynnig ar rai bwydydd llysieuol
Gwnewch Flodyn Lotws Origami.
Gwnewch lusern Wesak pdf (bbci.co.uk).
Diwrnod Byd-eang Amrywedd Diwylliannol dros Ddeialog a Datblygiad – Mai 21ain
Yn dilyn mabwysiadu’r Datganiad Byd-eang ar Amrywedd Diwylliannol, datgannodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig mai’r dyddiad Mai 21ain fyddai Diwrnod Byd-eang Amrywedd Diwylliannol – Deialog a Datblygiad er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o amrywedd diwylliannol a’i ddathlu. Mae llawer o waith wedi ei wneud, ac yn parhau i gael ei wneud ledled y byd i annog unigolion, cymunedau a sefydliadau i edrych ar ba gamau y gallant eu cymryd i gefnogi amrywedd a chynhwysiant.
Cliciwch yma i ddarllen mwy.
Diwrnod Byd-eang Amrywedd Diwylliannol – Deialog a Datblygiad | Y Cenhedloedd Unedig