Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Mae Cashback Cymunedol SPAR 100k yn dod yn ôl – Gallwch ymgeisio tan Fai’r 22ain. 

Mae Cashback Cymunedol  SPAR yn ôl am y drydedd flwyddyn yn olynol.

O ganlyniad i lwyddiant rhyfeddol cynllun Cashback Cymunedol £100,00 y llynedd, mae SPAR yn lansio ei drydydd cynllun Cashback Cymunedol £100,000 a fydd yn rhoi grantiau amrywiol i sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol ac elusennau. 

Cashback Cymunedol | Positifrwydd Lleol | SPAR


Grant Lleoedd-a-Gynorthwyir i Glybiau Gofal Plant All-Ysgol

Trwy gefnogaeth y Moondance Foundation, mae modd innni gynnig grantiau Lloedd Gofal Plant a Ariennir i Glybiau Gofal Plant All-Ysgol sy’n gofrestredig ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Mae’r ariannu yn awr ar gael o 01/05/2024 i 31/08/2024 i ganiatáu mynediad i blant na fyddent fel arfer yn gallu mynychu’r ddarpariaeth, ac a fyddent yn elwa o gyfleoedd chwarae y tu allan i’r diwrnod ysgol, a fyddai’n gymorth i’w hymgysylltiad cymdeithasol a’u lles meddyliol.

Cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant am fwy o wybodaeth.