Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Diwrnod Byd-eang Amrywedd Diwylliannol dros Ddeialog a Datblygiad – Mai 21ain

Yn dilyn mabwysiadu’r Datganiad Byd-eang ar Amrywedd Diwylliannol, datgannodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig mai’r dyddiad Mai 21ain fyddai Diwrnod Byd-eang Amrywedd Diwylliannol – Deialog a Datblygiad er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o amrywedd diwylliannol a’i ddathlu. Mae llawer o waith wedi ei wneud, ac yn parhau i gael ei wneud ledled y byd i annog unigolion, cymunedau a sefydliadau i edrych ar ba gamau y gallant eu cymryd i gefnogi amrywedd a chynhwysiant.

Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Diwrnod Byd-eang Amrywedd Diwylliannol – Deialog a Datblygiad | Y Cenhedloedd Unedig


Mis Hanes Lleol a Chymunedol

Oeddech chi’n gwybod bod y mis hwn yn Fis Hanes Lleol a Chymunedol? Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol sy’n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth o’r hanes sydd o’n cwmpas yn ein trefi a’n dinasoedd, gan roi cyfle i ni ddysgu mwy am ein hanes lleol.

Gallwch ddathlu hyn gyda gweithgareddau sy’n dathlu treftadaeth eich cymuned, gallai fod yn ddiwylliant ac iaith Gymraeg, mwyngloddio neu ffermio.

Mae gennym ni Adnoddau Cymraeg ar ein gwefan y gallwch chi eu defnyddio