29.09.2023 |
Mis Hanes Pobl Dduon 2023
Mynnwch olwg ar ein gwefan ar Hanes Pobl Dduon yng Nghymru sydd yn ymgysylltu, yn addysgu ac yn grymuso cymunedau ledled Cymru i gydnabod ac adnabod y cyfraniad y mae’r Alltudiaeth o Affrica wedi ei wneud i hanes datblygiad economaidd a diwylliannol Cymru. Y mae hefyd yn rhoi cyfle i’r gymuned ehangach gymryd rhan, dysgu a dathlu gyda’i gilydd i hyrwyddo dealltwriaeth a rhannu ein hanes byd-eang. Dyma ein Hanes Pobl Dduon, a Hanes Pobl Dduon yw Hanes Cymru.