05.01.2023 |
Camau Chwarae Dysgu Cymraeg
Ydych chi am ehangu eich gwybodaeth a’ch hyder i ddefnyddio’r Iaith Gymraeg neu gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eich lleoliad Gwaith Chwarae?
Cwrs iaith-Gymraeg, hunan astudio, ar-lein, ar lefel Mynediad yw Camau Chwarae; y mae wedi ei ariannu’n llawn ac wedi’i deilwra ar gyfer y sector Chwarae.
Mae’r cwrs Mynediad 1 yn cynnwys y canlynol:
- 10 Uned (tua 20 awr o ddysgu annibynnol);
- Dysgu Cymraeg i’w defnyddio gyda’r plant yn eich lleoliad Chwarae;
- Adnoddau wedi’u teilwra y gellir eu hargraffu i’w defnyddio yn eich lleoliad
Bydd ei’n Swyddog Cymorth Cymraeg ar law i’ch cefnogi chi ar eich taith a thu hwnt trwy sesiynau cymorth pwrpasol, ymarferol ac ar-lein, a fydd wedi’u teilwra ar eich cyfer.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â’n Swyddog Cymorth Cymraeg: