Clybiau All-Ysgol Sir Gaerfyrddin

Digwyddiad gwybodaeth Grant Cymorth Ychwanegol Y Cynnig Gofal Plant

Dydd Mercher  Ebrill 17eg, 6-7 y.h ar lein.

Diben y Grant Cymorth Ychwanegol Y Cynnig

Mae’r Cynnig Gofal Plant Cymru (y Cynnig) yn darparu 30 awr o ofal plant ac addysg gynnar wedi’i ariannu gan y llywodraeth i blant rhieni cymwys am 48 wythnos y flwyddyn.

Er mwyn sicrhau bod elfen gofal plant y Cynnig yn un cynhwysol i blant cymwys sydd angen cymorth ychwanegol, mae cymorth wedi’i ddarparu drwy gyfrwng ffrwd ariannu ar wahân, sef Grant Cymorth Ychwanegol Cynnig Gofal Plant Cymru. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r arian hwn i sicrhau bod plant cymwys ag anghenion ychwanegol yn gallu manteisio ar elfen gofal plant Y Cynnig yn yr un modd â phlant cymwys eraill.

Archebwch eich lle ar y digwyddiad defnyddiwch y linc isaf neu defnyddiwch y ‘QR code’ ynglwm.

https://forms.office.com/e/LVpic5fhUA

Bydd y linc i ymuno ar y digwyddiad yn cael ei ddanfon yn y prynhawn ar Ebrill 17eg 2024.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â

Susan James/Sera Scott

gwybplant@sirgar.gov.uk