Dathlwch Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol yn eich lleoliad ar Chwefror 21

Edrychwch ar ein syniadau am weithgareddau er mwyn hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ar Ddiwrnod Rhyngwladol Mamiaith

Wedi’i greu gan UNESCO i hybu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol ac amlieithrwydd, bydd gwerthfawrogi a hyrwyddo mamiaith plant yn annog amrywiaeth ieithyddol, yn meithrin goddefgarwch a hefyd yn gwneud iddynt deimlo’n falch o’u diwylliant a’u hunaniaeth.

Syniadau am weithgareddau

  • Oes unrhyw un yn eich clwb yn siarad ieithoedd gwahanol? Neu oes yna rywun yn dysgu iaith newydd neu wedi ymarfer un ar wyliau diweddar? Gofynnwch iddynt ddysgu rhai geiriau ac ymadroddion y gallwch chi i gyd eu dweud gyda’ch gilydd.
  • Gwnewch lyfr gwyliau lle gall plant ddod â lluniau/cardiau post o ble maent wedi bod ar wyliau i ddysgu a darganfod am wahanol wledydd, iaith, bwydydd a diwylliannau.
  • Argraffwch ein Poster Croeso amlieithog sydd yn ardal aelodau ein gwefan. Allwch chi ddweud ‘croeso’ ym mhob un o’r ieithoedd hynny? Pa eiriau eraill allwch chi ddysgu eu dweud?

Poster croeso: dathlu amrywedd mewn clybiau