Arolwg Aelodau

Ein gweledigaeth  yw Cymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu. Ein cenhadaeth yw bod yn llais Clybiau Gofal Plant All-ysgol yng Nghymru, gan gefnogi hawl plant i chwarae a gofal plant o ansawdd sydd yn gynaliadwy, yn fforddiadwy ac sy’n ateb anghenion plant, eu teuluoedd a’u cymunedau.

I’n helpu i adolygu, gwella a chynllunio ein gwasanaethau i’n haelodau, gofynnwn ichi gymryd 5 munud i gwblhau ein Harolwg Aelodau byr.

Bydd ystadegau’n cael eu coladu o’ch ymateb er mwyn rhoi syniad i ni o’r darlun ar draws Cymru. Defnyddiwn y data yma i adrodd yn erbyn targedau i Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol ac arianwyr.