05.04.2024 |
Newidiadau i’r cyngor deietegol ar fwydo plant ifanc 1 i 5 mlwydd oed
Cyngor deietegol y DU i blant 1 i 5 mlwydd oed
- Mae canllawiau dietegol presennol y boblogaeth [fel y dangosir yng Nghanllaw Eatwell] yn gyfangwbl berthnasol o 5 oed ymlaen.
- Dylai canllawiau cyfredol y boblogaeth ar gymeriant siwgrau rhydd ar gyfartaledd [sef na ddylai cymeriant siwgrau rhydd fod yn fwy na 5% o gyfanswm y deiet] fod yn berthnasol i bob grŵp oedran o 2 oed i fyny.
- Gellir rhoi llaeth buchod cyfan fel prif ddiod o 1 oed. Gellir cyflwyno llaeth hanner sgim o ddwy flwydd oed ar yr amod bod y plentyn yn bwyta’n dda (yn bwyta diet amrywiol a chytbwys) ac yn tyfu’n dda i’w oedran. Ni ddylid rhoi i blant ifanc llaeth heb ei basteureiddio oherwydd y risg uwch o wenwyn bwyd. Cyn belled â’u bod wedi’u pasteureiddio, gellir defnyddio llaeth geifr a dafad o 1 oed.
- Nid oes angen llaeth fformiwla cyntaf, llaeth fformiwla dilynol na llaeth ‘tyfu’ unwaith y bydd eich babi yn 12 mis oed.
- Cyngor cyffredinol i’r boblogaeth ar gynnyrch llaeth a dewisiadau amgen (Arweinlyfr Eatwell): Dewiswch opsiynau â llai o fraster a siwgr.
Argymhellion deietegol diwygiedig i blant 1 i 5 mlwydd oed
- Dylai argymhellion dietegol cyfredol y DU fel y dangosir yn y Canllaw Bwyta’n Iach fod yn berthnasol o tua 2 oed.
- Dylai argymhellion dietegol y DU ar gymeriant siwgrau rhydd ar gyfartaledd (na ddylai cymeriant siwgrau rhydd fod yn fwy na 5% o gyfanswm cymeriant egni dietegol) fod yn berthnasol o 1 oed
- Nid oes angen llaeth fformiwla (gan gynnwys llaeth fformiwla i fabanod, fformiwla ddilynol, llaeth ‘tyfu’ neu laeth ‘plant bach’ eraill) ar blant rhwng 1 a 5 oed. Fel arfer nid oes angen fformiwla arbenigol, gan gynnwys fformiwla alergedd isel, ar ôl blwyddyn gyntaf bywyd.
- Yn ddelfrydol, dylai cynhyrchion llaeth (fel iogwrt a fromage frais) a roddir i blant 1 i 5 oed fod heb eu melysu.
- Nid oes angen bwydydd a diodydd wedi’u gweith-gynhyrchu’n fasnachol sy’n cael eu marchnata’n benodol ar gyfer babanod a phlant ifanc i fodloni gofynion maethol.
Am wybodaeth bellach: Newidiadau i gyngor deietegol Llywodraeth Cymru ar gyfer plant ifanc (WHC/2024/011) [HTML] | LLYW.CYMRU