05.04.2024 |
Cefnogi Trydydd Sector Cymru – Cyllido a Gwybodaeth
Cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Cefnogi Trydydd Sector Cymru i gael y cyllid diweddaraf sydd ar gael yn ogystal â digwyddiadau. Rhwydwaith o sefydliadau cymorth ar gyfer y trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae’n cynnwys y 19 o gyrff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru.
Y mae hefyd wedi lansio ‘Cyllido Cymru’ y llwyfan chwilio am gyllid newydd. Dowch o hyd i gyllid ar gyfer eich elusen, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol gan ddefnyddio eu peiriant chwilio ar-lein yn rhad ac am ddim.
Gallwch chwilio ymhlth cannoedd o gyfleoedd am gyllid grant a benthyciad o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O grantiau bach i brosiectau cyfalaf mawr, gall Cefnogi Trydydd Sector Cymru eich helpu i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei angen arnoch.