Deddf Elusennau 2022: Gwybodaeth am y newidiadau a fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Mehefin.

A wyddech chi y gall y Comisiwn Elusennau roi cyfarwyddyd i elusen newid ei henw ar hyn o bryd os yw ei enw’n rhy debyg i enw elusen arall, os yw yn achosi tramgwydd neu’n gamarweiniol?

Disgwylir i’r set derfynol o newidiadau a wnaed gan Ddeddf Elusennau 2022 ddod i rym erbyn diwedd 2023. Darllenwch Deddf Elusennau 2022: Cynllun gweithredu am drosolwg llawn.

Bydd y Ddeddf yn galluogi’r Comisiwn i weithredu ymhellach i:

  • roi cyfarwyddyd i elusen i beidio â defnyddio’i henw gweithiol os yw’n rhyd debyg i enw elusen arall, os yw’n achos tramgwydd neu’n gamarweiniol.
  • oedi cofrestru elusen sydd ag enw anaddas, neu oedi ychwanegu enw newydd anaddas at y Gofrestr Elusennau.

Mae’r newidiadau eraill sydd i’w cyflwyno ym Mehefin 2023 yn rhoi sylw i:

  • Werthu, prydlesu neu gael gwared ar dir elusen mewn unrhyw ffordd arall
  • Defnyddio gwaddol parhaol
  • Darpariaethau eraill – diweddarir y diffiniad o berson cysylltiedig i dynnu ymaith iaith sydd bellach wedi dyddio

Newidiadau a ddaeth i rym ar Hydref 31 2022

Deddf Elusennau 2022: gwybodaeth am y newidiadau sy’n cael eu cyflwyno – GOV.UK (www.gov.uk)