13.04.2023 |
Cynlluniau Talebau Gofal Plant
Ydych chi’n gadael i’r rhieni/gofalwyr wybod y gallant ddefnyddio eu talebau gofal plant yn y Clwb Allysgol? Bydd bod â rhychwant o gyfleoedd i rieni dalu am ofal plant yn eich helpu i gefnogi tyfiant eich busnes eich hun. Efallai y bydd rhai rhieni wedi talu i mewn i’w cynllun talebau gofal plant mewn blynyddoedd a fu, a bod ganddynt arian wrth gefn yn eu cyfrif. Rhannwch y wybodaeth yma â’ch teuluoedd a gwnewch yn siŵr y gallant gael gafael ar unrhyw ariannu a fydd ar gael.