16.11.2023 |
AGC – Adnodd hunanadrodd data newydd ar gyfer gofal plant a chwarae
Gweler y neges isod gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Annwyl bawb
Fel y byddwch eisoes yn gwybod fwy na thebyg, yn 2023 gwnaethom gasglu amrywiaeth o wybodaeth a data gan yr holl ddarparwyr gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru drwy broses y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (DHG). Mae’n bleser gennym eich hysbysu bod y wybodaeth hon, ynghyd â gwybodaeth o flynyddoedd blaenorol, bellach ar gael yn gyhoeddus ar ein gwefan.
Mae’r adnodd hunanadrodd data gofal plant a chwarae yn rhoi gwybodaeth amrywiol a defnyddiol gan 2790 o ddarparwyr cofrestredig ac yn cynnwys data ar bopeth, o roi hyfforddiant a chymwysterau i’r fframweithiau ansawdd a ddefnyddir. Mae’r adnodd hefyd yn amlinellu’r nifer o bobl sy’n gweithio yn y sector gofal plant a chwarae a nifer y swyddi gwag.
Dim ond ar lefel awdurdodau lleol y mae’r data ar gael. Mae hyn yn golygu y caiff enwau’r lleoliadau unigol eu hamddiffyn.
Gallwch gael gafael ar yr adnodd hunanadrodd data gofal plant a chwarae yma a dyma fideo byr sy’n crynhoi rhai o’r canfyddiadau.