YMGYNGHORIAD Strategaeth Tlodi Plant i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru’n gofyn am eich barn ar y Strategaeth Tlodi-Plant ddrafft i Gymru.

Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi plant fel blaenoriaeth lwyr, ac mae ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu yn cael eu llunio a’u cyflawni gan yr angen i frwydro yn erbyn tlodi ac anghydraddoldeb fel sbardun canolog.

Mae’r strategaeth hon wedi’i llunio ar y cyd â theuluoedd sydd â phrofiad byw o dlodi a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi. Mae dros 3,300 o unigolion, gan gynnwys dros 1,400 o blant a phobl ifanc, wedi rhoi o’u hamser i siarad â ni a’n helpu i ddeall yr hyn y mae angen i ni ei flaenoriaethu wrth i ni gyflenwi ar drechu tlodi ac anghydraddoldeb ar draws y llywodraeth.

Llywodraeth y DU sydd â’r prif ysgogiadau ar gyfer trechu tlodi fel budd-daliadau lles a llawer o bwerau cyllidol. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o weithio ar draws Llywodraeth Cymru i wneud y defnydd mwyaf posibl o’r pwerau sydd ar gael inni.

Er mwyn i ni wneud gwahaniaeth go iawn mae’n rhaid i ni roi atebion Gwnaed yng Nghymru ar waith, gan weithio gyda’n partneriaid tuag at Gymru lle gall pob plentyn, person ifanc a theulu ffynnu.