23.06.2023 |
Adnoddau Ymarfer Gwrth-hiliol
Mae Cwlwm yn gweithio’n strategol gyda DARPL (Dysgu Proffesiynol ar Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth) i wreiddio arferion gwrth-hiliol ym meysydd Gofal Plant, y Blynyddoedd Cynnar a Gwaith Chwarae.
Mae Cwlwm, mewn partneriaeth a DARPRL wedi darparu’r cyrsiau hunan-astudio isod i gyflwyno cysyniadau arferion gwrth-hiliol. Mae dwy gyfres o hyfforddiant, un wedi’i hanelu at Uwch Arweinwyr ac un wedi’i hanelu at Ymarferwyr.
Gellir dod o hyd i’r modiwlau rhagarweiniol hyn, a mwy o adnoddau hefyd ar wefan DARPL.
Cliciwch ar y sesiynau yma a chadwch y ffeiliau i’ch dyfais.