Ymddiriedolaeth Teulu a Gofal Plant Coram yn cyhoeddi ei ‘Arolwg Gofal Plant Gwyliau’ blynyddol 

Trwy hyrwyddo achos Clybiau Gofal Plant All-Ysgol, gan gynnwys Clybiau Gofal Gwyliau, gallwn feithrin Cymru lle rhoddir blaenoriaeth i les plant; gall rhieni ddilyn eu dyheadau proffesiynol, a gall cymunedau ffynnu. Mae gan Glybiau Gofal y tu allan i’r ysgol, gan cynnwys Clybiau Gofal Gwyliau, arwyddocâd aruthrol yng Nghymru, wrth darparu cefnogaeth anhepgor i blant, teuluoedd a’r economi yn gyffredinol. Wedi’u harolygu yn erbyn safonau a rheoliadau cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru, mae’r clybiau cofrestredig hyn yn creu mannau diogel lle gall plant chwarae’n rhydd a thyfu. Mae dewis gofal plant cofrestredig o ansawdd nid yn unig yn rhoi mynediad i rieni at gymorth ariannol, mae hefyd yn gwarantu staff sydd wedi’u hyfforddi’n dda ac sy’n gymwysedig, cymarebau oedolion:plant caeth a pholisïau cynhwysfawr i wella ansawdd. 

 

 

O ystyried y buddion aruthrol y  maent yn eu darparu, daw’n amlwg bod buddsoddi yn llesiant a datblygiad ein plant trwy Glybiau Gofal Plant All-Ysgol cofrestredig yn rhoi gwobrau amhrisiadwy i blant a theuluoedd fel ei gilydd. 

Mae yna lawer o wahanol fathau o ddarpariaeth sy’n cael eu marchnata fel ‘clybiau gwyliau’. Mae Clybiau Gofal Gwyliau, sydd wedi’u cofrestru gyda’r corff rheoleiddio yng Nghymru – Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) – yn bodloni’r’r safonau cenedlaethol sy’n gwella ansawdd y gofal i deuluoedd, ac yn cael eu harchwilio yn ôl y rhain.    

Golyga  hyn fod gweithwyr chwarae wedi’u hyfforddi a’u cymhwyso i ddarparu profiadau llawn chwarae sy’n hybu hunan-barch a lles plant ac yn eu helpu i ddatblygu ystod o sgiliau bywyd.   Mae clybiau cofrestredig yn cadw at gymarebau oedolion:plant caeth, a chyda gweithwyr chwarae sydd wedi’u hyfforddi mewn diogelu, cymorth cyntaf ac iechyd a diogelwch, ac yn ymgymryd yn ogystal â dysgu proffesiynol o fathau eraill i gefnogi plant a’u lles.  Mae ganddynt hefyd gyfres gynhwysfawr o bolisïau a gweithdrefnau sy’n bodloni 25 o Safonau Gofynnol Cenedlaethol i ddiogelu plant a darparu darpariaethau o ansawdd. 

Deil y pris yn ddylanwadwr allweddol ar ddewisiadau gofal plant rhieni, ynghyd â lleoliad; felly hefyd ansawdd y gofal a staff da, sydd hefyd â chostau ynghlwm wrthynt.   

Er enghraifft, cynyddodd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn sylweddol ym mis Ebrill.  O ystyried bod y rhan fwyaf o weithwyr gofal plant yn cael eu talu o gwmpas isafswm cyflog, bydd hyn yn cael effaith ar gostau i ddarparwyr y mae’n rhaid eu talu. 

Mae rhai clybiau’n dweud bod rhent a chyfleustodau wedi cynyddu’n sylweddol ac mae’n rhaid iddynt hefyd dalu costau uwch o ran bwyd, adnoddau a thrafnidiaeth. 

Fodd bynnag, mae cofrestru gyda AGC hefyd yn galluogi rhieni sy’n gymwys i gael mynediad at gymorth ariannol gyda ffioedd gofal plant fel Gofal Plant Di-dreth (cymorth gydag 20% o ffioedd gofal plant) neu Gredydau Cynhwysol (hyd at 85%)  a’r  Cynnig Gofal Plant i Gymru , y rhain yn arbennig o bwysig pan fydd y cynnydd mewn costau byw yn parhau i effeithio ar deuluoedd. Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu gofal plant wedi’i ariannu am 3-4 blynedd pobl ifanc am 48 wythnos y flwyddyn – mae hyn yn cynnwys gwyliau ysgol, lle mae rhieni’n gweithio neu mewn addysg bellach/uwch, am 30 awr yr wythnos, 9 wythnos o’r flwyddyn. 

Yr haf hwn  yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs, rydym hefyd yn cynnig cynllun bychan lleoedd wedi’u hariannu, diolch i grant gan Sefydliad Moondance, i alluogi plant, nad ydynt fel arfer yn mynychu, i elwa o chwarae a chymdeithasu mewn Clybiau All-Ysgol, a thrwy hynny atgyfnerthu eu hymgysylltiad cymdeithasol a’u lles. 

 

Adnoddau pellach i rieni sydd eisiau darganfod mwy 

Dewisiadau Gofal Plant | Gofal Plant am ddim 30 awr, Gofal Plant Di-dreth a mwy | Help gyda chostau | GOV.UK 

Llyfryn_Choose_childcare.pdf (childcareinformation.wales) 

Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd 

www.clybiauplantcymru.org