A wyddech chi fod gwasanaeth cyfieithu rhad ac am ddim o’r enw Helo Blod?!

Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim! 

Gyda’n gilydd gallwn weithio ar ddefnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes. 

Gall hynny fod yn gyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes, neu help i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, gweithdy neu ar dy wefan – mae Helo Blod yma i dy helpu! 

Mae Helo Blod yn cynnig y gwasanaethau canlynol: 

  • cyfieithu am ddim – gall Helo Blod gyfieithu hyd at 500 gair i’r Gymraeg bob mis, yn rhad ac am ddim 
  • gwirio testun – mae Helo Blod yn gallu gwirio 1,000 o eiriau bob blwyddyn am ddim, felly byddi di’n hyderus bod y deunydd rwyt ti’n ei ddefnyddio yn Gymraeg yn gywir, rho gynnig arni! 
  • cyngor ac arweiniad – mae Helo Blod yn cynnig cyngor ymarferol, arweiniad a chymorth i dy helpu i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac os oes angen unrhyw beth arall yn ychwanegol, fe wnaiff Helo Blod dy gyfeirio di at rywun fydd yn gallu helpu 
  • nwyddau– mae Helo Blod hefyd yn dosbarthu laniardiau a bathodynnau Iaith Gwaith sy’n nodi bod staff neu wirfoddolwyr yn siarad neu’n dysgu Cymraeg, yn ogystal ag arwyddion drws Ar Agor/Ar Gau dwyieithog.  

Lledaenwch y neges  
Trowch gwsmeriaid yn ffyddloniaid.  

Unwch gymunedau. 

 

Ewch i’r wefan a dechreuwch wneud y gorau o wasanaethau Helo Blod heddiw! gov.wales/heloblod/cy