22.09.2023 |
Ffeiriau Cyllido’n dod ar draws Powys!
Mae Ffeiriau Cyllido i’w cynnal yn fuan ar draws Powys. Mae’r rhain yn addas ar gyfer grwpiau cymunedol y trydydd sector, clybiau, sefydliadau, grwpiau chwaraeon ac yn y blaen sy’n chwilio am gyllid.
Bydd rhwng 3 a 5 o gyllidwyr yn mynychu pob un. Bydd pob un ohonynt yn rhoi trosolwg o’u cronfeydd a’u grantiau, yn rhoi manylion y meini prawf, amserlenni, awgrymiadau ar gyfer ymgeisio ac yn y blaen, yna bydd cyfle i bobl gael sgyrsiau 1:1 gyda’r cyllidwyr. Mae’r digwyddiadau’n para tua 2 awr. Mae’n well ceisio cyrraedd y dechrau er mwyn i chi ddal y cyflwyniadau.
Y Trallwng: Dydd Mawrth 10 Hydref 4.30pm – 6.30pm yn COWSHACC, Oldford Lane, Y Trallwng SY21 7TE