01.09.2023 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Mae Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg yn falch iawn o gyhoeddi bod ceisiadau bellach ar agor ar gyfer cronfa Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc 2023/24. Gall y grant ariannu prosiectau a gweithgareddau gwirfoddoli ieuenctid a gynhelir ym Mro Morgannwg hyd at uchafswm o £1500.
Nod y grant yw rhoi blaenoriaeth i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli gydag, ac ar gyfer, ystod amrywiol o bobl ifanc (14 – 25 oed) a chyflawni canlyniadau cadarnhaol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef:
- Cymru lewyrchus
- Cymru gydnerth
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru iachach
- Cymru o gymunedau cydlynus
- Cymru â Diwylliant Bywiog a’r Gymraeg yn Ffynnu
- Cymru sy’n ymateb i faterion byd-eang
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw dydd Gwener 27 Hydref 2023
Mae cyllid ar gael ar gyfer prosiect neu weithgaredd gwirfoddoli ieuenctid yn y Fro — GVS
Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm – i gau ar 15/09/2023
Mae grantiau ar gael i sefydliadau cymunedol yng Nghymru gefnogi prosiectau a gweithgareddau ym meysydd chwaraeon, y celfyddydau, y gymuned a’r amgylchedd. Swm: £6,600.