Cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant mewn gwres llethol

O ystyried y gwres llethol y mae Cymru’n ei brofi yr wythnos hon, nodwch y cyngor a roddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r rhai sy’n gweithio gyda phlant mewn gwres llethol.  

  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor ynghylch y plant hynny a allai fod fwyaf agored i niwed, yn ogystal ag yn amlinellu’r camau i’w cymryd dan do ac yn yr awyr agored i amddiffyn pob plentyn rhag yr haul.  

  

Ni ddylai plant byth gael eu gadael ar eu pennau eu hunain mewn ceir – nid hyd yn oed am funud, gan y gall tymheredd y car godi’n gyflym iawn. 

  

Dylai lleoliadau sicrhau eu bod yn gyfarwydd ag arwyddion blinder gwres a strôc gwres, yn ogystal â’r camau i’w cymryd pe bai unrhyw un yn eu lleoliad yn dangos arwyddion o strôc gwres neu flinder gwres.  Mae canllawiau ar hyn i’w gweld trwy Iechyd Cyhoeddus Cymru neu yng nghyngor y GIG.  Dylid trin strôc gwres fel argyfwng bob amser.